SL(5)266 - Gorchymyn Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1495 (W. 145)) er mwyn cywiro gwallau a diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth berthnasol yr UE, i sicrhau gorfodi cywir.

Mae hefyd yn diwygio Gorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1438 (W. 150)) a Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1811 (W. 175)) er mwyn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth berthnasol yr UE.

Y weithdrefn

Negyddol.

Craffu ar faterion technegol

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

Rydym yn croesawu cynnwys map yn y Memorandwm Esboniadol, sy'n dangos crynodeb hawdd o'r ardaloedd o'r môr sydd wedi'u cynnwys ym mharth Cymru.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r Gorchymyn hwn yn gweithredu rhwymedigaethau amrywiol yr UE mewn perthynas â physgota môr, felly bydd y Gorchymyn hwn yn rhan o gyfraith yr UE a gedwir ar ôl y diwrnod gadael.

Mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn darparu bod rheoli a chefnogi pysgodfeydd yn faes polisi sy'n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau a wnaed o dan adran 12 o Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018. Felly, mae'r gyfraith sy'n dod o dan y Gorchymyn hwn yn debygol o fod yn faes o gyfraith yr UE sy'n cael ei rewi tra bod fframweithiau cyffredin yn cael eu rhoi ar waith.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

19 Hydref 2018